Gyrrwr tacsi wedi’i garcharu am ymosod ar ddwy fenyw ar eu pen eu hunain yng Nghaerdydd

Cafodd Amanuele Mebrahtu o Dreganna, Caerdydd, ei adnabod ar ôl chwiliad helaeth o ddeunydd teledu cylch cyfyng a oedd yn ei ddangos ar droed ac yn ei gerbyd, yn teithio o ganol y ddinas i Cathays.

Darparodd ap ar ei ffôn, yr oedd yn ei ddefnyddio ar gyfer ei wasanaethau tacsi, leoliad byw fesul eiliad hefyd a oedd yn cyfateb yn union i’r hyn a welwyd ar y deunydd teledu cylch cyfyng.

Er bod archwiliad fforensig wedi ei gysylltu’n ddiweddarach â dillad y dioddefwr drwy’r DNA ar ei ffrog, parhaodd Mebrahtu i wadu mai ef oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau a ddigwyddodd ym mis Hydref a mis Rhagfyr 2024.

Roedd y gyrrwr Uber wedi ymosod yn rhywiol ar deithiwr ar ôl ei gyrru’n ôl i’w chartref a gofyn iddi am gwtsh. Ar achlysur arall, roedd wedi ymosod yn rhywiol ar fenyw arall ar ôl cynnig ei chario ar ei gefn i lawr rhes o risiau.

Parhaodd y dyn 28 oed i wadu’r ddau honiad ond fe’i cafwyd yn euog yn Llys y Goron Casnewydd o ymosodiad rhywiol drwy dreiddio ac ymosodiad rhywiol drwy gyffwrdd.

Cafodd Mebrahtu ei ddedfrydu i saith mlynedd a thri mis yn y carchar, gyda chyfnod trwydded estynedig o dair blynedd, yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth 4 Tachwedd.

Cafodd y diffynnydd hefyd ei wneud yn destun gofynion hysbysiad troseddwr rhyw a Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol am gyfnod amhenodol.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Shane Coombes o Heddlu De Cymru: 

“Hoffwn ganmol dewrder a hyder y dioddefwyr wrth roi gwybod i’r heddlu, rhannu’r hyn a ddigwyddodd, a chefnogi’r ymchwiliad.

“Rwy’n gobeithio y bydd y canlyniad yn y llys yn rhoi rhywfaint o gysur iddynt bod cyfiawnder wedi cyrraedd y troseddwr a bod eu dewrder wedi helpu i amddiffyn y cyhoedd ehangach rhag niwed.

“Mae rheibiwr peryglus bellach oddi ar ein strydoedd.”

Taxi driver jailed for sexually assaulting two lone females in Cardiff

Amanuele Mebrahtu, of Canton, Cardiff, was identified following an extensive CCTV trawl that tracked him on foot and within his vehicle, travelling from the city centre to Cathays.

An app on his phone, which he used for his taxi services, also provided a live second-by-second location that matched perfectly against the suspect shown on CCTV.

Despite later being forensically linked to the victim’s clothing via DNA on her dress, Mebrahtu continued to deny being responsible for the attacks which happened in October and December 2024.

The Uber driver had sexually assaulted a passenger after driving her back to her home and asking her for a hug. He would later sexually assault another woman after offering to give her a piggyback down some stairs.

The 28-year-old continued to deny both allegations but was found guilty at Newport Crown Court of sexual assault by penetration and sexual assault by touching.

Mebrahtu was sentenced to seven years and three months imprisonment, with an extended licence period of three years, at Cardiff Crown Court on Tuesday, November 4.

The defendant was also made subject to sex offender notification requirements and a Sexual Harm Prevention Order indefinitely.

Detective Constable Shane Coombes from South Wales Police said:

“I want to commend the victims for their bravery and the courage in coming forward, sharing what had happened, and supporting the investigation.

“I hope that the outcome at court brings them some comfort that the offender has been brought to justice and that their bravery has helped protect the wider public from harm.

“A dangerous predator is now rightfully off our streets.”

Unlock Membership Benefits

Exclusive discounts, resources and insights for licensing professionals.

Share This

Facebook
Twitter
LinkedIn
WhatsApp
Reddit
Email

More News