/* Normal line breaks */ .elementor-widget-text-editor br { display: block; margin-bottom: 0.5em; } /* Add extra spacing between two consecutive line breaks */ .elementor-widget-text-editor br + br { margin-bottom: 1.5em; }

Cabinet y Cyngor yn ystyried argymhellion ynghylch trwyddedu bridio cŵn

Mae Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo argymhellion i’w hystyried ynghylch swyddogaeth trwyddedu bridio cŵn yn y sir yn dilyn adolygiad gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen.

 

Prif nodau’r adolygiad oedd archwilio sut mae’r tîm ar hyn o bryd yn cyflawni’r gwaith o reoleiddio trwyddedu bridio cŵn ac argymell meysydd i’w gwella. Arweiniodd hyn at nifer o argymhellion lleol a chenedlaethol.

 

Yr argymhellion lleol:

  • Gwneud ymarfer adennill costau trylwyr ac adolygu’r gwaith o bennu ffioedd i sicrhau bod costau’n cael eu cofnodi’n gywir
  • Gwella dealltwriaeth milfeddygon lleol o’r gofynion ar gyfer bridwyr trwyddedig drwy eu hannog i ymuno â’r Cynllun Prynu â Hyder
  • Gwella gwybodaeth y cyhoedd drwy hyrwyddo gwaith y Tîm Lles Anifeiliaid ymhellach
  • Archwilio opsiynau i gyflwyno system sgorio orfodol ar gyfer bridwyr trwyddedig i wella cysondeb
  • Cynyddu adnoddau o fewn y Tîm Iechyd Anifeiliaid gan gynnwys ystyried cyflwyno cais twf

 

Mae’r argymhellion cenedlaethol a nodir yn gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried:

  • Adolygu effeithiolrwydd y tîm Trwyddedu Anifeiliaid Cymru i sicrhau bod cyllid yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau
  • Adolygu’r meini prawf ar gyfer pennu ffioedd ac ystyried cynnwys cyfran o gost y gwaith o orfodi’r cynllun trwyddedu
  • Adolygu cwmpas y ddeddfwriaeth ac ailgychwyn yr adolygiad o amodau trwyddedu
  • Ymchwilio i’r angen am grŵp cenedlaethol i gynorthwyo a chefnogi bridwyr cŵn, yn debyg i’r Undeb Amaethwyr
  • Ystyried cyflwyno cronfa ddata microsglodyn ganoledig
  • Rhoi pen ar fridio anghyfreithlon drwy adolygu’r trefniadau rhannu gwybodaeth cyfredol gan gynnwys Trwyddedu Anifeiliaid Cymru a chyflwyno gorfodaeth i gofrestru pob ci bach sy’n cael ei eni
  • Gwella safonau’n gyson trwy ystyried gweithredu system sgorio genedlaethol ac archwilio’r defnydd o ddulliau gorfodi ychwanegol ar gyfer achosion o fân dorri rheolaeth fel Hysbysiadau Cosb Benodedig

 

Cafodd yr adolygiad, a ddatblygwyd trwy Grŵp Gorchwyl a Gorffen, ei gynnal trwy gyfres o gyfarfodydd ynghyd ag archwilio’r polisïau a gweithdrefnau presennol yn drylwyr, ymgynghori â rhanddeiliaid (gan gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus) a chynnal ymweliadau safle â bridwyr trwyddedig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Kevin Madge, Cadeirydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen:

 

 “Diolch i’r bridwyr trwyddedig a groesawodd y grŵp i’w safleoedd, yn ogystal â’r aelodau hynny o’r cyhoedd a roddodd adborth gwerthfawr yn yr ymarfer ymgynghori. Roedd y cymorth hwn yn werthfawr i’n helpu i lunio’r argymhellion a nodir yn yr adroddiad, ac rydym yn gobeithio y byddant bellach yn cael eu datblygu i wella’r swyddogaeth trwyddedu bridio cŵn yn Sir Gaerfyrddin.”

 

Yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd, y Cynghorydd Aled Vaughan Owen said:

 

“Diolch i aelodau’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen am eu gwaith rhagorol wrth adolygu swyddogaeth trwyddedu bridio cŵn y Cyngor a gyflawnir gan y Tîm Lles Anifeiliaid. Mae’r adolygiad hwn wedi tynnu sylw at waith rhagorol a chanlyniadau cyson tîm bach sy’n chwarae rhan hanfodol wrth orfodi deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, gan amddiffyn lles anifeiliaid a bridwyr cyfreithlon.”

Carmarthenshire Council’s Cabinet considers recommendations on dog breeding licensing

Carmarthenshire County Council’s Cabinet has endorsed recommendations for consideration on dog breeding licensing function within the county following a Task and Finish group review.

 

The key aims of the review were to explore how the team currently delivers the regulation of dog breeding licensing and recommend areas for improvement. This resulted in a number local and national recommendations.

 

Local recommendations:

  • Undertake a thorough cost recovery exercise and review of fee setting to ensure that costs are accurately captured
  • Improve the understanding of local vets on the requirements for licensed breeders by encouraging them to join the Buy With Confidence Scheme
  • Improve public knowledge by further promoting the work of the Animal Welfare Team
  • Explore options for introducing a compulsory scoring system for licensed breeders to improve consistency
  • Increase resources within the Animal Health Team including considering the submission of a growth bid.

 

The national recommendations set out ask Welsh Government to consider:

  • Review the effectiveness of the Animal Licensing Wales team to ensure funding is being used in the best way
  • Review fee setting criteria and consider including a portion of the cost of enforcing the licensing scheme
  • Review the scope of legislation and restart the review of licensing conditions
  • Investigate the need for a national group to assist and support dog breeders, similar to the Farmers’ Union
  • Consider the introduction of a centralised microchip database
  • Clamp down on illegal breeding by reviewing current information sharing arrangements including Animal Licensing Wales and introduce the compulsory registration of all puppies born
  • Improve standards consistently by considering the implementation of a national scoring system and explore the use of additional enforcement tools for minor breaches such as Fixed Penalty Notices

 

Developed via a Task and Finish Group, the review was carried out through a series of meetings, thorough examination of existing policies and procedures, stakeholder consultations (including public consultation) and site visits to licensed breeders.

 

Chair of the Task and Finish Group, Cllr Kevin Madge said:

 

“Thank you to the licensed breeders who welcomed the group to their premises, as well as to those members of the public who provided valuable feedback within the consultation exercise. This assistance was valuable in helping us to shape the recommendations laid out within the report, which we hope will now be carried forward to improve the dog breeding licensing function within Carmarthenshire.”

 

Cabinet Member for Climate Change, Decarbonisation and Sustainability, Cllr Aled Vaughan Owen said:

 

“Thank you to the Task and Finish Group for their excellent work in reviewing the Council’s dog breeding licensing function carried out by the Animal Welfare Team. This review has highlighted the excellent work and consistent results of a small team who play a crucial role in enforcing animal health and welfare legislation, protecting both animal welfare and legitimate breeders.”

Unlock Membership Benefits

Exclusive discounts, resources and insights for licensing professionals.

Share This

Facebook
Twitter
LinkedIn
WhatsApp
Reddit
Email

More News