Newid Cadarnhaol: £1 Miliwn i gryfhau lles anifeiliaid ledled Cymru
Mae’r cyllid ar gyfer 2026/27 yn galluogi Trwyddedu Anifeiliaid Cymru i gynnal y tîm arbenigol sy’n cefnogi awdurdodau lleol i reoleiddio gweithgareddau anifeiliaid, mynd i’r afael â bridio anghyfreithlon, ac erlyn troseddwyr. Mae porth ar-lein canolog bellach yn symleiddio’r broses o wneud cais ar gyfer bridwyr cŵn, ac mae cynlluniau ar waith i ehangu i weithgareddau trwyddedig eraill.
Ers ei lansio yn 2020, mae Trwyddedu Anifeiliaid Cymru wedi dod yn adnodd cenedlaethol hanfodol. Mae’r fenter wedi sicrhau erlyniadau arwyddocaol a gwella canlyniadau lles trwy orfodi cyson, arbenigol. Mae wedi helpu i hyfforddi arolygwyr lles anifeiliaid ledled Cymru, gan godi safonau proffesiynol. Mae milfeddygon hefyd wedi derbyn hyfforddiant i gynnal gwiriadau iechyd ar gŵn bridio, gan gynnwys asesiadau ffitrwydd i fridio.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sy’n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig:
Rwy’n falch iawn o gyhoeddi’r cyllid hwn ar gyfer Trwyddedu Anifeiliaid Cymru, menter arobryn a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth gefnogi gorfodi lles anifeiliaid. Rydym yn cymryd lles anifeiliaid o ddifrif ac mae’r buddsoddiad hwn yn cyflawni ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu i wella cymwysterau arolygwyr a datblygu model cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid. Mae’r dull Cymru gyfan yn sicrhau safonau cyson ar gyfer anifeiliaid mewn sefydliadau trwyddedig.
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Richard Irvine:
Mae Trwyddedu Anifeiliaid Cymru wedi trawsnewid sut rydym yn diogelu lles anifeiliaid ledled y wlad. Trwy ddwyn ynghyd arbenigedd a chreu dull gweithredu cenedlaethol cyson, rydym wedi rhoi’r adnoddau sydd eu hangen ar awdurdodau lleol i fynd i’r afael â bridio anghyfreithlon ac achosion o les anifeiliaid gwael.
Mae’r cyllid parhaus hwn yn golygu y gallwn adeiladu ar bum mlynedd o gynnydd. Mae ein harolygwyr a’n milfeddygon hyfforddedig bellach wedi’u harfogi yn well nag erioed i nodi pryderon lles yn gynnar a gweithredu.
Mae pob anifail yng Nghymru yn haeddu gofal priodol, gan gynnwys y rhai mewn sefydliadau trwyddedig. Mae’r buddsoddiad hwn yn helpu i sicrhau eu bod yn ei gael.
Mae Hope Rescue wedi gweld gwahaniaeth yn barod. Dywedodd ei Brif Weithredwr, Vanessa Waddon:
Rydym wedi gweithio gyda thîm Trwyddedu Anifeiliaid Cymru ers ei sefydlu, gan ofalu am gŵn sydd wedi cael eu hymafael oddi wrth fridwyr sy’n cadw cŵn mewn amodau gwael, a’u hailgartrefu. Mae dull rhagweithiol y fenter o godi safonau a chymryd camau gorfodi pan fo angen wedi gwella lles cymaint o gŵn yng Nghymru yn sylweddol. Mae’n dorcalonnus gweld yr effaith iechyd ac ymddygiadol y mae bridio gwael yn ei chael ar y cŵn hyn, ac rydym wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid pellach i gefnogi’r gwaith hollbwysig hwn.
Pawsitive Change: £1 Million to Strengthen Animal Welfare Across Wales
The funding for 2026/27 enables Animal Licensing Wales to maintain its specialist team supporting local authorities to regulate animal activities, tackle illegal breeding, and prosecute offenders. A central online portal now streamlines applications for dog breeders, with plans to expand to other licensed activities.
Since launching in 2020, Animal Licensing Wales has become a vital national resource. The initiative has secured significant prosecutions and improved welfare outcomes through consistent, expert enforcement. They have helped train animal welfare inspectors across Wales, raising professional standards. Veterinary professionals have also received training to conduct health checks on breeding dogs, including fitness to breed assessments.
Deputy First Minister with responsibility for Climate Change and Rural Affairs, said:
I’m delighted to announce this funding for Animal Licensing Wales, an award-winning Welsh Government funded initiative which is making a real difference in supporting our welfare enforcement.
We take animal welfare very seriously and this investment delivers on Programme for Government commitments to improve inspector qualifications and develop a national model for animal welfare regulation. The pan-Wales approach ensures consistent standards for animals in licensed establishments.
Chief Veterinary Officer for Wales, Richard Irvine, said:
Animal Licensing Wales has transformed how we protect animal welfare across the country. By bringing together expertise and creating a consistent national approach, we have given local authorities the tools they need to tackle illegal breeding and poor welfare practices.
This continued funding means we can build on five years of progress. Our trained inspectors and veterinarians are now better equipped than ever to identify welfare concerns early and take action.
Every animal in a licensed establishment in Wales deserves proper care. This investment helps ensure they get it.
Hope Rescue has seen the differences already made. Their Chief Executive, Vanessa Waddon, said:
We have worked with the Animal Licensing Wales team since their inception, caring for and rehoming the dogs that have been seized from breeders keeping dogs in low welfare conditions. Their pro-active approach to raising standards and taking enforcement action when needed has immeasurably improved the welfare of so many dogs in Wales. It’s heartbreaking seeing the health and behavioural impact poor breeding has on these dogs, and we’re delighted that the Welsh Government has announced further funding to support this much needed work.
Unlock Membership Benefits
Exclusive discounts, resources and insights for licensing professionals.
- Published:
- Categories: Animal welfare, Wales
Share This
More News
Peers back shift to national standards for taxi licensing
A government amendment to the English Devolution and Community Empowerment...
Read MoreHouse of Lords reject mandatory taxi accessibility proposals
The House of Lords has voted down a proposed amendment...
Read MoreGovernment pressed on welfare of flat‑faced breeds as ministers highlight existing licensing controls
The UK Government has been questioned in Parliament over the...
Read MoreGovernment publishes long‑awaited Martyn’s Law Statutory Guidance & consultation on section 12 guidance
The UK Government has published the long‑anticipated statutory guidance for...
Read More